Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Ffordd Murree, Rawalpindi | |
Math | dinas, dinas â miliynau o drigolion, endid tiriogaethol gweinyddol |
---|---|
Poblogaeth | 2,098,231 |
Cylchfa amser | Pakistan Standard Time |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rawalpindi Tehsil |
Gwlad | Pacistan |
Arwynebedd | 5,286 km² |
Uwch y môr | 508 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 33.6°N 73.1°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Rawalpindi Municipal Corporation |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Rawalpindi |
Dinas ar Wastadedd Potwar, talaith Punjab, gogledd Pacistan, ger y brifddinas Islamabad, yw Rawalpindi (Urdu: راولپنڈی). Rawalpindi ("Pindi" i bobl leol) yw lleoliad pencadlys milwrol Llu Arfog Pacistan a gwasanaethodd hefyd fel prifddinas y wlad wrth i ddinas newydd Islamabad gael ei chodi yn y 1960au. Mae'n gartref i sawl diwydiant a ffatri. Lleolir Maes Awyr Rhyngwladol Islamabad yn Rawalpindi ei hun, ac mae'n gwasanethu'r ddwy ddinas hynny. Gorwedd Rawalpindi yn nhalaith Punjab, 275 km (171 milltir) i'r gogledd-orllewin o Lahore. Hi yw canolfan weinyddol Ardal Rawalpindi. Poblogaeth Rawalpindi yw tua 3,039,550.
Ar 27 Rhagfyr 2007, lladdwyd Benazir Bhutto, cyn-Brif Weinidog Pacistan, gan derfysgwr ar ôl siarad mewn rali gan Plaid Pobl Pacistan mewn parc yng nghanol y ddinas.