Knowledge Base Wiki

Search for LIMS content across all our Wiki Knowledge Bases.

Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.

Gareth Thomas
Ganwyd25 Gorffennaf 1974 Edit this on Wikidata
Sarn Edit this on Wikidata
Man preswylPen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r gynghrair, chwaraewr rygbi'r undeb, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
Taldra191 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau103 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tรฎm/auClwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Bridgend Ravens, Rhyfelwyr Celtaidd, Stade Toulousain, Croesgadwyr Rygbi'r Gynghrair, Tรฎm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Clwb Rygbi Pontypridd, Tรฎm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Wales A national rugby union team, Tรฎm rygbi'r gynghrair cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
Gweler hefyd y tudalen gwahaniaethu Gareth Thomas.

Chwaraewr rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair o Gymru yw Gareth Thomas CBE (ganed 25 Gorffennaf 1974), a adwaenir hefyd fel Alfie. Enillodd fwy o gapiau rhyngwladol dros Gymru nag unrhyw chwaraewr arall. Gall chwarae fel cefnwr, canolwr neu asgellwr.

Bywgraffiad

Ganed Thomas yn Sarn, ym Morgannwg Ganol, 25 Gorffennaf 1974.

Gyrfa

Rygbi'r undeb

Bu'n chwarae i dรฎm Pen-y-bont ar Ogwr a Caerdydd cyn dychwelyd i Ben-y-bont ar Ogwr pan gyflwynwyd rygbi rhanbarthol, ymunodd รข'r Rhyfelwyr Celtaidd yn nhymor 2003/2004. Y tymor wedyn ymunodd รข Toulouse, gan ennill Cwpan Heineken gyda hwy yn 2005. Ym mis Ionawr 2007, ymunodd รข Gleision Caerdydd.

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru ar 27 Mai 1995 yn erbyn Japan. Ar 26 Mai 2007, torrodd record Gareth Llewellyn trwy ennill ei 93ain cap. Chwaraeodd ei ganfed gรชm dros Gymru yn erbyn Ffiji yng Nghwpan y Byd, 2007. Nid yw wedi chwarae dros Gymru ers hynny. Mae'n dal y record am y nifer fwyaf o geisiadau a sgoriwyd dros Gymru gyda 40, cyfanswm a gyrhaeddodd Shane Williams hefyd yn ddiweddar.

Teithiodd i Seland Newydd gyda'r Llewod yn 2005, ac wedi i'r capten Brian O'Driscoll gael ei anafu, dewiswyd Thomas yn gapten yn ei le.

Rygbi'r gynghrair

Yn mis Mawrth 2010, arwyddodd Thomas gyda glwb Croesgadwyr Rygbi'r Gynghrair ar gytundeb o 18 mis.

Bywyd personol

Rhwng 2002 a 2006, roedd Thomas yn briod รข'i wraig Jemma. Priododd y ddau yn St Brides Major, ger Pen-y-bont ar Ogwr, ac ysgarodd y ddau yn 2007; yn ystod eu perthynas, collodd Jemma dri phlentyn.[1]

Ym mis Rhagfyr 2009 cyhoeddodd Thomas ei fod yn hoyw.[1] Dywedodd wrth bapur newydd y Daily Mail, "I don't want to be known as a gay rugby player. I am a rugby player, first and foremost I am a man."[2] Ar hyn o bryd, Thomas yw'r unig chwaraewr rygbi proffesiynol sydd yn dal i chwarae i gadarnhau ei rywioldeb yn gyhoeddus.[3] Mewn cyfweliad gyda'r BBC, soniodd Thomas ei fod yn gobeithio y bydd chwaraewyr rygbi hoyw ifainc y dyfodol yn medru dod allan a chael eu derbyn fel "chwaraewyr rygbi hoyw talentog".[4] Dywedodd Thomas hefyd fod yr hyn "I choose to do when I close the door at home has nothing to do with what I have achieved in rugby."[5]

Yn Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod yr actor Americanaidd Mickey Rourke yn awyddus i gynhyrchu ffilm am fywyd Thomas, gyda Rourke ei hun yn chwarae'r prif gymeriad.[6]

Ar 6 Ionawr 2012, ymddangosodd Thomas ar gyfres deledu Channel 5 Celebrity Big Brother.[7]

Ar 15 Medi 2019, datgelodd ei fod yn HIV-bositif. Roedd wedi byw gyda'r gyfrinach ers sawl blwyddyn ac wedi bod yn destun blacmรชl gan rai newyddiadurwr tabloid oedd am ddatgelu'r newyddion. Penderfynodd ddatgelu'r newyddion ei hun ddiwrnod cyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth Triathlon Ironman yn Ninbych-y-Pysgod. Darlledwyd rhaglen Gareth Thomas: HIV and Me ar BBC Cymru ar 18 Medi.[8]

Derbyniodd CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020, am ei gyfraniad i rygbi a'r maes iechyd.[9]

Cyfeiriadau