Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | general anatomical term, nonparenchymatous organ, muscle structure, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | System gyhyrol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Meinwe gyfangol sy'n bodoli mewn cyrff fertebratau yw cyhyr. Mae'n deillio o'r haenen fesodermig o gelloedd germ embryonaidd. Mae celloedd cyhyrau yn cynnwys ffilamentau cyfangol sy'n symud heibio i'w gilydd gan newid maint y cell. Mae tri gwahanol fath o gyhyr, sef cyhyrau sgerbydol, llyfn a'r rhai y galon. Eu swyddogaeth yw i greu nerth ac achosi mudiant. Gall cyhyrau achosi ymsymudiad yr organeb ei hun neu symudiad yr organau mewnol. Mae cyfangu cyhyrau y galon a'r rhai llyfn yn digwydd heb feddwl ymwybodol ac mae'n angenrheidiol ar gyfer goroesiad. Enghreifftiau o hyn yw cyfangiad y galon a'r gwringhelliad (peristalsis) sy'n gwthio bwyd trwy'r system dreulio. Defnyddir cyfangiad rheoledig o'r cyhyrau sgerbydol i symud y corff, a gall hyn gael ei reoli'n fanwl. Mae enghreifftiau yn cynnwys symudiad llygad, neu symudiadau crynswth megis cyhyrau pedryben y morddwyd. Mae dau fath llydan o ffibr cyhyr rheoledig: plwc araf a phlwc cyflym. Mae cyhyrau plwc araf yn gallu cyfangu am gyfnod hir o amser gyda ychydig iawn o nerth tra bod cyhyrau plwc cyflym yn gallu cyfangu yn gyflym ac yn nerthol ond maent yn lludded yn sydyn.
Mae tri math o gyhyrau:
Mae cyhyr llyfn hefyd yn gyhyr anrheoledig anrhesog, ac a geir o fewn muriau organau a strwythurau megis y llwnc, y stumog, coluddion, bronciolynnau, croth, wrethra, pledren, gwythiennau, ac yn y croen hyd yn oed (lle mae'n rheoli codiad blew). Yn wahanol i cyhyr sgerbydol, nid yw cyhyr llyfn dan reolaeth ymwybodol.
Mae cyhyr y galon (hefyd myocardiwm) yn gyhyr anrheoledig rhesog ond mae'n debycach o ran strwythur i gyhyr sgerbydol, a gaiff ei ganfod yn y galon yn unig.
Mae cyhyr sgerbydol yn gyhyr rheoledig rhesog wedi angori i'r asgwrn gan ewynnau, ac a'i ddefnyddir i effeithio symudiad sgerbydol megis ymsymudiad ac i gynnal ymddaliad. Er fod rheolaeth yr ymddaliad yn cael ei gynnal yn gyffredinol yn isymwybodol, mae'r cyhyrau sy'n gyfrifol am wneud hyn yn ymateb yn yr un modd a cyhyrau sydd ddim yn ymwneud â ymddaliad. Cyfansoddir dyn mewn oed o 40–50% o gyhyrau sgerbydol, a dynes mewn oed o 30–40% ohonynt (fel canran o fás y corff).
Rhannir cyhyrau sgerbydol yn bellach yn dri is-fath:
Mae anatomeg cyhyrau yn cynnwys anatomeg crynswth, yn cynnwys holl gyhyrau organeb, ac, ar y llaw arall, microanatomeg, sy'n cynnwys strwythrau cyhyrau unigol.